Melanie Williams Artist

Encaustic Paintings
My Art     Gallery     Cards     Contact Me - Feedback     Cymraeg     Painting Holidays      

Rwyf wedi byw yng Ngogledd Cymru ers fy mhlentyndod, a symudais i’r Bala wyth mlynedd ar hugain yn ôl. Fy ysbrydoliaeth yw prydferthwch naturiol rhyfeddol Parc Cenedlaethol Eryri.  Rwyf wastad wedi mwynhau bod yn greadigol a thros y blynyddoedd gweithiais yn bennaf drwy gyfrwng dyfrliw. Yn ddiweddar rwyf wedi ymddiddori’n arw mewn lliw, gwead a phatrymau a thrwy hyn wedi troi at waith celf cwyr.   Byddaf yn arbrofi’n gyson gyda syniadau newydd a defnyddio celfi/offer gwahanol i drawsnewid y lliw cwyr i ddelweddau artistig, lliwgar. Mae’r effaith orffenedig yn gymharol debyg i beintiad olew gan eich bod yn gallu ychwanegu haenau trwchus o gwyr sydd yn fyw ac diddos rhag oleuni.

Mae gwaith llosgliw yn gelfyddyd hynafol sy’n dyddio yn ôl tair mîl o flynyddoedd. Fe’i defnyddiwyd gan yr Eifftiaid ar Groegiaid i beintio eu llongau rhyfel ac addurno waliau eu beddau. Tarddiad y gair encaustic yw’r gair Groegaidd enkaiein – i losgi i mewn. Erbyn hyn, defnyddir llosgliw, neu encaustic pan yn trafod unrhyw ddull sy’n defnyddio lliw wedi ei gymysgu a chwyr gwenyn – gellir ei doddi a’i daenu gyda haearn  bach neu nifer wahanol o gelfi meddal neu galed. Gellir peintio ar wahanol fathau o ddefnyddiau sylfaenol fel papur dyfrliw, cerdyn, canfas, pren neu bapur llosgliw arbennig.

 


Gwaith gwreiddiol gan Mel Williams

Melanie Williams
Encaustician/Artist
Llanfor
Bala
Gwynedd
LL23 7DU
UK

 
01678 520036
or 07896634483


 

This page was last modified on Monday, February 21, 2011 06:08:53 PM